|
beth yw ‘performance’ yn gymraeg? – Hanes Llafar Celfyddyd Perfformio yng Nghymru |
::Bydd Shirley Cameron a Roland Miller yn sgwrsio am berfformio yn y Barry Summer School nodedig a’u gwaith perfformio ar y cyd yng Nghymru yn y 1970au.Lleoliad: Cardiff School of Art and Design, Howard Gardens, Caerdydd CF24 0SP Mynediad am ddim – i gadw lle, cysylltwch â mail@performance-wales.org. 07980-981355. Yn Saesneg. “My (our) work is in performance art. … In terms of the materials used, it starts with the artist’s own body as the basic source. … My own interest is in sculptural formalism… and additionally a humanistic and autobiographical theme. My work has always been an expression of dualities, formal, physical and emotional. It is because of this, I believe, that I have been able to work with another person: the concretizing of the theme of self and other.” [Shirley Cameron, 1979] “In my performance I use constructed objects, altered or coloured clothing; and occasional language for exposition or narrative: I try to re-establish the importance of our relationship as individuals with others… I try to project through my body’s actions our physical domination of one another, our postures of servitude, our ludicrousness, or physical presence in the world.” [Roland Miller, 1979] Fe weithiodd Shirley Cameron, sydd wedi’i hyfforddi fel cerflunydd, a Roland Miller, a oedd yn aelod craidd o’r People Show dylanwadol, gyda’i gilydd am y tro cyntaf ym 1970 yng nghyd-destun y Barry Summer School nodedig, un o’r enghreifftiau gorau o addysg celfyddyd arbrofol ym Mhrydain. Trwy gydol y saithdegau fe greodd y ddau gorff sylweddol o waith gyda’i gilydd o’u canolfan yn Abertawe, gan greu digwyddiadau syml defodol, yn gweithio gyda lliw a phersbectif mewn dull gweledol trawiadol. Er eu bod wedi parhau i greu gwaith unigol a chydweithio gyda nifer o artistiaid perfformio eraill, mae Cameron a Miller yn fwyaf adnabyddus am eu gwaith ar y cyd fel cwpl, yn aml yn archwilio eu rolau eu hunain o fewn eu partneriaeth, ac yn ddiweddarach yn aml yn cynnwys eu dwy ferch yn y gwaith. ::Bydd Shirley Cameron a Roland Miller yn sgwrsio am berfformio yn y Barry Summer School nodedig a’u gwaith perfformio ar y cyd yng Nghymru yn y 1970au. Beth yw “Performance” yn Gymraeg? (What’s Welsh for Performance?) – Hanes Llafar Celfyddyd Perfformio yng Nghymru Cyfres o ddigwyddiadau dros ddwy flynedd yn ymwneud ag artistiaid allweddol sydd wedi siapio datblygiad celfyddyd perfformio yng Nghymru ers 1968. Bydd cyfweliadau cyhoeddus gydag Ivor Davies, Roland Miller, Shirley Cameron, Anthony Howell ac eraill yn cyflwyno i’r gynulleidfa agwedd o hanes celf Cymru sydd wedi’i hesgeuluso hyd yma, ond eto sy’n faes hynod o bwysig. Bydd deunydd dogfennol helaeth (fideos, sleidiau, darluniau ayyb) yn cael eu harddangos fel rhan o bob sgwrs. Bwriedir cyhoeddi cyfrol i gyd-fynd â’r gyfres yn 2007. Tymor 1 (2006-7): Ivor Davies .......... 12 Hydref 2006 6pm Shirley Cameron & Roland Miller .......... 23 Tachwedd 2006 6pm Timothy Emlyn Jones & John Chris Jones ...22 Chwefror 2007 6pm Anthony Howell .......... 15 Mawrth 2007 6pm. Prosiect: Dr Heike Roms; mewn cydweithrediad â SHIFTwork Time Based Art Research Group, Cardiff School of Art and Design. Ariannwyd gan: Gyngor Celfyddydau Cymru. Gyda chefnogaeth: Prifysgol Cymru Aberystwyth; Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd; a Chapter. |
| web site: www.performance-wales.org |
| Heike Roms e-mail: mail@performance-wales.org |
| Friday, November 10, 2006 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

::Bydd Shirley Cameron a Roland Miller yn sgwrsio am berfformio yn y Barry Summer School nodedig a’u gwaith perfformio ar y cyd yng Nghymru yn y 1970au.